Mae nifer cynyddol o gyrff yn galw am ohirio Gemau Olympaidd Tokyo yn yr haf oherwydd y coronafeirws.

Roedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) dan y lach ddechrau’r wythnos am fynnu y byddai’r Gemau’n dechrau ar Orffennaf 24 yn ôl y disgwyl – er bod digwyddiadau chwaraeon wedi’u gohirio ar draws y byd.

Mae athletwyr yn parhau i feirniadu’r corff sy’n trefnu’r Gemau, ar ôl iddyn nhw ddweud eu bod nhw’n trefnu “gorau gallan nhw” er gwaetha’r feirws.

Mae cyrff fel Global Athlete a Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen ymhlith y rhai sy’n galw am ohirio’r Gemau.

Datganiad

Wrth ddod at ei gilydd i alw am ohirio’r Gemau, mae’r cyrff yn dweud bod athletwyr eisiau i’r digwyddiad lwyddo, ond maen nhw’n tynnu sylw at fesurau sy’n cael eu cyflwyno ar draws y byd yn atal torfeydd o bobol rhag dod ynghyd.

“Mae gan chwaraeon ddyletswydd i ofalu am athletwyr a’u gwarchod,” meddai’r datganiad.

“Rhaid i iechyd cyhoeddus fod yn flaenoriaeth uwchlaw digwyddiad chwaraeon.

“Mae gofyn [i athletwyr] barhau yn ôl eu harfer ac i barhau i ymarfer ar gyfer y Gemau yn amlwg yn rhoi eu hiechyd corfforol a meddyliol mewn perygl.”

Mae’r datganiad hefyd yn gofyn i ddarlledwyr a noddwyr ddangos “hyblygrwydd a dealltwriaeth”.