Fydd Ryanair ddim yn cludo teithwyr i mewn nac allan o Wlad Pwyl tan Fawrth 31 oherwydd coronavirus.

Mae’n cynnwys gwasanaethau Buzz a Lauda y cwmni, a bydd yn dod i rym am ganol nos heno (nos Sul, Mawrth 15).

Yn ôl y cwmni, maen nhw’n gweithredu’n unol â phenderfyniad llywodraeth y wlad i gau gwasanaethau ar hyd a lled y wlad.

Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cysylltu â’u holl deithwyr i roi gwybod a chynnig opsiynau gwahanol iddyn nhw, gan ymddiheuro wrth unrhyw un sy’n cael eu heffeithio.