Mae’r Undeb Ewropeaidd yn galw ar wledydd sy’n aelodau i gynnal profion coronavirus ger eu ffiniau.

Mae ymlediad y firws yn codi amheuon am egwyddor yr Undeb Ewropeaidd fod gan ei haelodau’r hawl i symud yn rhydd ar draws y cyfandir.

Mae mesurau llymach nag arfer yn eu lle, yn enwedig wrth i bobol deithio i mewn ac allan o’r Eidal, sydd â’r nifer fwyaf o achosion a marwolaethau y tu allan i Tsieina.

“Rydym wedi gweld gwaharddiadau a chyfyngiadau ar deithio’n cael eu cyflwyno mewn nifer o wledydd sy’n aelodau,” meddai Ursula von der Leyen, llywydd Comisiwn Ewrop.

“Mae’n bosib fod modd cyfiawnhau rhai rheoliadau, ond dydy gwaharddiadau cyffredinol ar deithio ddim yn cael eu hystyried yn effeithiol gan Sefydliad Iechyd y Byd.

“Ymhellach, maen nhw’n cael effaith gref yn gymdeithasol ac yn economaidd.

“Maen nhw’n amharu ar fywydau a busnesau pobol ar draws y ffiniau.”

Mae’n dweud ymhellach fod rhaid i unrhyw fesurau fod yn “gymesur” yn unol â chanllawiau Brwsel.

Y sefyllfa yn Ewrop

Mae ffiniau Gwlad Pwyl wedi’u cau a does gan dramorwyr ddim hawl i gael mynediad i’r wlad oni bai eu bod nhw’n byw yno neu fod ganddyn nhw deulu yn y wlad.

Bydd unrhyw un nad ydyn nhw’n byw yno’n barhaol yn cael mynd i gwarantîn am 14 diwrnod.

Mae Slofacia wedi cymryd camau tebyg.

Mae bron i 22,000 o achosion o’r firws yng ngwledydd Ewrop hyd yn hyn, a bron i 1,300 o farwolaethau.

Yn ôl yr Undeb Ewropeaidd, mater i’r gwledydd unigol yw eu polisïau iechyd a diogelwch cyhoeddus, ond mae nifer o wledydd, gan gynnwys Croatia a Sweden yn galw am gymryd camau ar y cyd.