Mae coronavirus yn argyfwng yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn.

Daeth y cyhoeddiad gan yr Arlywydd Donald Trump ddoe (dydd Gwener, Mawrth 13) wrth iddo awgrymu y gallai gael ei brofi am y firws er nad oes ganddo fe unrhyw symptomau.

Fel rhan o’r argyfwng, bydd hyd at 50bn o ddoleri ar gael i lywodraethau taleithiol a lleol, a bydd pwerau arbennig yn cael eu rhoi i’r ysgrifennydd iechyd a gwasanaethau dynol.

Mae’r Tŷ Gwyn a’r Gyngres yn trafod pecyn o fesurau, ond bydd y Democratiaid yn cyflwyno’u mesurau eu hunain.