Mae Sebastian Kurz, Canghellor Awstria, wedi cyhoeddi bod y wlad yn cau ei ffiniau i deithwyr o’r Eidal yn sgil pryderon am coronavirus.

Dywed y bydd y sawl sydd â nodyn meddygol yn cael eu heithrio, ac y bydd yr awdurdodau’n helpu i ddychwelyd dinasyddion Awstria o’r Eidal.

Mae Robert Abela, prif weinidog ynys Melita, wedi cyhoeddi bod y wlad wedi atal pob awyren rhag teithio i mewn ac allan o’r Eidal, ac nad yw cychod o’r Eidal ddim ond yn cael docio os ydyn nhw’n cario cargo, bwyd neu feddyginiaeth.

Mae Awstria, gwledydd Prydain ac Iwerddon yn cynghori pobol i beidio â theithio i’r Eidal wrth i’r wlad barhau i gael ei hynysu.

Ac mae sefydliad rheoli clefyd gwladol yr Almaen yn disgrifio’r Eidal fel “ardal risg.”