Mae Israel yn cynnal trydydd etholiad mewn llai na blwyddyn i benderfynu a ddylai’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu aros mewn grym er gwaetha achos troseddol yn ei erbyn ar gyhuddiadau o lygredd.

Benjamin Netanyahu yw’r arweinydd sydd wedi bod mewn grym am y cyfnod hiraf yn hanes Israel ac mae wedi aros yn y swydd yn dilyn dau etholiad lle mae’r canlyniadau wedi bod yn amhendant.

Gyda’r polau piniwn yn darogan canlyniadau tebyg eto, mae Benjamin Netanyahu yn gobeithio y bydd yn sicrhau mwyafrif yn y senedd, ynghyd a phleidiau cenedlaetholgar eraill, er mwyn cadw ei swydd am y pedwerydd tymor yn olynol.

Mae’n wynebu her gan y cyn-bennaeth milwrol Benny Gantz, arweinydd y blaid Glas a Gwyn, sy’n dadlau na ddylai Benjamin Netanyahu gael parhau i arwain y wlad oherwydd y cyhuddiadau difrifol yn ei erbyn.

Mae’n ymddangos nad yw’r blaid Glas a Gwyn na phlaid Benjamin Netanyahu, Likud, am ffurfio clymblaid gyda’u cynghreiriaid traddodiadol.

Fe fydd Benjamin Netanyahu yn sefyll ei brawf ar Fawrth 17.