Mae’r marchnadoedd stoc drwy’r byd wedi cwympo ymhellach oherwydd pryderon am coronavirus gyda Wall Street yn gweld eu cwymp mwyaf mewn un diwrnod ers naw mlynedd.

Fe fu cwymp o 3.7% yn Tokyo ac roedd marchnadoedd arian Seoul a Sydney wedi gostwng mwy na 3%. Fe gwympodd Hong Kong a Shanghai fwy na 2.5%.

Yn Wall Street fe gwympodd mynegai’r Dow Jones 1,190.95 o bwyntiau – y cwymp mwyaf mewn diwrnod yn ei hanes.

Fe fu cywmp hefyd mewn prisiau olew oherwydd bod disgwyl i’r galw grebachu.

Pryderon

Roedd buddsoddwyr wedi bod yn hyderus bod y firws, a ddaeth i’r amlwg yn Tsieina ym mis Rhagfyr, o dan reolaeth. Ond mae achosion yn yr Eidal, De Corea ac Iran wedi cynyddu pryderon bod y coronavirus yn troi’n fygythiad fyd eang a allai gael effaith andwyol ar fasnach a diwydiant.

Yn yr Unol Daleithiau ddydd Iau (Chwefror 27), daeth cadarnhad o’r achos cyntaf o’r firws mewn person oedd heb deithio dramor ac oedd heb fod mewn cysylltiad ag unrhyw un oedd wedi bod.

Mae nifer cynyddol o gwmnïau mawr yn cyhoeddi rhybudd am elw wrth i ffatrïoedd yn Tsieina gau gan effeithio’r gadwyn gyflenwi. Mae gwaharddiadau ar deithio a mesurau eraill hefyd yn effeithio gwerthiant nwyddau yn Tsieina.