Mae degau o bobol wedi cael eu lladd yng nghanol protestiadau yn Delhi Newydd.

Mae protestwyr yn dangos eu gwrthwynebiad i gyfraith newydd ar ddinasyddiaeth sydd, medden nhw, yn fygythiad i fywyd secwlar yn y wlad ac i’r 200m o Fwslimiaid yn y wlad.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cyflymu’r broses i leiafrifoedd ethnig ddod yn ddinasyddion yn India, ond nid Mwslimiaid.

Ac fe ddaw’r protestiadau wrth i’r prif weinidog Narendra Modi a Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, gyfarfod.

Mae un o arweinwyr lleol plaid BJP, plaid Narendra Modi, wedi cynnal ei rali ei hun yn galw ar yr heddlu i symud y protestwyr.

Mae 32 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i’r protestiadau mewn ardaloedd Hindwaidd a Mwslimaidd.

Mae gwaharddiad yn ei le sy’n atal grwpiau o fwy na phump o bobol rhag ymgynnull ar y strydoedd, ac mae ysgolion ynghau.

Mae’r heddlu’n gwadu iddyn nhw helpu terfysgwyr Hindwaidd ac osgoi atal trais yn erbyn Mwslimiaid, ond mae fideos wedi dod i’r amlwg yn dangos diffyg ymateb yr heddlu i ymosodiadau ar Fwslimiaid.

Mae fideos eraill yn dangos yr heddlu’n gorfodi Mwslimiaid i ganu anthem genedlaethol India.