Mae pump o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn bragdy ym Milwaukee.

 

Fe wnaeth yr ymosodwr 51 oed saethu ei hun yn farw yn dilyn y digwyddiad ar safle Molson Coors.

 

Dydy’r awdurdodau ddim wedi dweud hyd yn hyn pam na sut roedd yr ymosodiad wedi digwydd.

 

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump, “mae ein calonnau ni’n torri drostyn nhw a’u hanwyliaid” yn dilyn “peth ofnadwy”.

 

Yn ôl prif weithredwr Molson Coors, roedd y saethwr yn gweithio i’r cwmni.

 

“Yn anffodus, dw i’n torri fy nghalon wrth rannu ein bod ni wedi colli pum aelod arall o’n teulu yn y ddamwain drasig hon,” meddai Gavin Hattersley.

 

“Does dim geiriau i fynegi’r tristwch mawr mae nifer ohonon ni’n ei deimlo nawr.”