Mae’r awdurdodau yn Ne Corea yn dweud bod 169 achos newydd o coronavirus yn y wlad gan ddod â chyfanswm yr achosion i 1,146.

Mae 11 o bobl wedi marw o ganlyniad i’r firws yn y wlad, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw mewn ysbyty yn Cheongdo ger Daegu.

Mae Canolfannau Atal a Rheoli Afiechyd yr Unol Daleithiau yn galw ar Americanwyr i baratoi i’r afiechyd ledu yno.

“Dyw e ddim yn gwestiwn os yw hyn yn mynd i ddigwydd bellach, ond yn hytrach pryd yn union mae hyn yn mynd i ddigwydd – a faint o bobl sy’n debygol o gael afiechyd difrifol,” meddai Dr Nancy Messonier.

Yn ôl byddin yr Unol Daleithiau mae un o’i milwyr yn Ne Corea wedi profi’n bositif am coronavirus a bellach o dan gwarantîn.

Mae swyddogion Tsieniaidd wedi adrodd 406 achos newydd yn ogystal â 52 o farwolaethau, i gyd yn nhalaith Hubei.

Mae 2,715 o bobl wedi marw o’r firws yn Tsieina erbyn hyn, gyda 78,064 o achosion yn y wlad.

Pryderon ar sut i rwystro’r firws rhag lledu

Gydag achosion newydd yn codi ar draws y byd, mae pryderon ynghylch sut i rwystro’r firws rhag lledu a beth fydd yn digwydd pan fydd yn cyrraedd llefydd newydd.

Yr Eidal sydd wedi cymryd y mesurau atal mwyaf llym yn Ewrop, ond mae’r wlad wedi gweld y nifer fwyaf o achosion y tu allan i Asia.

Mae arbenigwyr yn Japan, sydd ag un o’r systemau iechyd mwyaf soffistigedig yn y byd, yn derbyn bod diffygion wedi bod yn y modd y deliodd y wlad â’r firws a’u bod nhw wedi gadael i’r broblem chwyddo.