Mae naw o bobol wedi’u lladd yn Nhwrci yn dilyn daeargryn 5.7 ar raddfa Richter yng ngorllewin Iran fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 23).

Fe darodd ddinas Khoy, gan effeithio ar bentrefi yn nhalaith Van ar y ffin, yn ôl llywodraeth Twrci.

 

Cafodd tri o blant a phedwar o oedolion eu lladd yn nhalaith Baskule, yn ôl adroddiadau cychwynnol, ond cododd nifer y meirw i naw yn ddiweddarach.

 

Mae 37 o bobol wedi cael eu hanafu, gan gynnwys naw o bobol sydd mewn cyflwr difrifol na yw’n peryglu eu bywydau.

 

Mae rhai pobol yn dal yn sownd o dan weddillion adeiladu sydd wedi cwympo, ac mae timau achub yn eu cynorthwyo yn yr ardal fynyddig.

 

Mae 43 o bentrefi yn ardal Qotour wedi’u taro, yn ôl adroddiadau yn Iran.