Mae’n fwyfwy tebygol mai Bernie Sanders fydd ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Nevada.

Mae’r sosialydd 78 oed hefyd wedi perfformio’n gryf yn Iowa a New Hampshire, gan ennill cefnogaeth trwch o’r boblogaeth Latino.

Does neb o’r Gweriniaethwyr yn herio Donald Trump am dalaith Nevada.

Aeth e i dalaith Tecsas wedyn ar gyfer rali lle bu’n lladd ar Donald Trump, gan ddweud bod yr arlywydd yn “gelwyddgi sy’n rhedeg gweinyddiaeth bwdr”.

Y rhai eraill yn y ras ar gyfer ymgeisyddiaeth y Democratiaid yw Elizabeth Warren, Joe Biden a Pete Buttigieg, ond mae’r tri ymhell y tu ôl i’r ceffyl blaen.

Bydd yr enillydd yn ymddangos ar bapurau pleidleisio yn erbyn Donald Trump ym mis Tachwedd.