Mae 2,442 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i coronavirus yn Tsieina.

Roedd 97 o farwolaethau yn ystod y 24 awr diwethaf hyd at fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 23), ychydig yn llai na’r 24 awr blaenorol.

Mae 648 o achosion newydd wedi’u cyhoeddi.

Mae nifer yr achosion yn cynyddu yn Ne Corea hefyd, ac mae chwech o bobol bellach wedi marw yn Iran.

Mae nifer y bobol sydd wedi’u heintio bedwar gwaith yn fwy yn yr Eidal, yn dilyn cyfres o achosion yng ngogledd y wlad, lle mae pobol wedi’u rhoi dan gwarantîn.

Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod arweinwyr Tsieina yn ei chael yn anodd atal y firws rhag lledu.