Mae cannoedd o ysgolion wedi’u cau, mae capeli’n troi addolwyr i ffwrdd ac mae torfeydd mawr o bobl wedi cael eu gwahardd wrth i nifer yr achosion o’r coronavirus yn Ne Corea gynyddu.

Yn ôl llywodraeth y wlad, mae oddeutu 204 o bobol bellach yn dioddef gyda’r firws.

Mae pa mor gyflym mae achosion yn amlhau yn dangos pa mor hawdd mae’r firws yn gallu lledaenu.

“Rydym mewn cyfnod o argyfwng,” meddai Chung Se-kyun, prif weinidog De Corea, ar y teledu ar ddechrau cyfarfod y llywodraeth i drafod yr argyfwng iechyd.

“Hyd yn hyn, ein prif ffocws oedd ceisio atal y firws rhag cyrraedd y wlad.

“Ond nawr, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar atal y firws rhag lledaenu i gymunedau lleol.”

Dinas Daegu yn ne-ddwyrain y wlad, lle mae 2.5 miliwn o bobol yn byw, yw ffocws y llywodraeth wrth geisio atal y firws rhag lledaenu.

Daeth adroddiadau am yr achos cyntaf yn y ddinas ddydd Mawrth (Chwefror 18) ond erbyn heddiw (dydd Gwener, Chwefror 21) mae 153 o achosion yno.

Mae Chung Se-kyun wedi addo lleddfu prinder gwlâu, personél meddygol ac offer mewn ymdrech i ymateb i’r firws.