Fe fydd Prif Weinidog Lesotho, Thomas Thabane, yn cael ei gyhuddo o ladd ei gyn-wraig, Lipolelo, yn ôl uchel-swyddog o heddlu’r wlad.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol yn yr haf.

Roedd ei wraig bresennol Masesaiah eisoes wedi cael ei chyhuddo’n gynharach y mis yma o’r llofruddiaeth yn 2017.

Fe fydd Thomas Thabane, sy’n 80 oed, hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio mewn cysylltiad â saethu rhywun arall a oedd gyda’i wraig ar y pryd.

Roedd ef a Lipolelo wedi gwahanu pan gafodd ei saethu’n farw ger ei chartref yn Maseru 14 Mehefin 2017.

Ef fydd y prif weinidog cyntaf yn hanes y wlad i gael ei gyhuddo o unrhyw drosedd.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Thomas Thabane ei fod wedi dweud wrth y Brenin Letsie III ac Arlywydd De Affrica, Cyril Ramaphosa am ei fwriad i ymddeol ym mis Gorffennaf.

Mae disgwyl bellach iddo fod dan bwysau i adael ei swydd ar unwaith.