Er bod achosion o’r coronavirus yn dal i gynyddu yn Tsieina, mae nifer yr achosion newydd wedi lleihau am yr ail ddiwrnod yn olynol.

Gyda chyfanswm o 74,185 o achosion o’r haint wedi eu cofnodi yn y wlad, a 2,004 o farwolaethau, y cyfrif am heddiw (dydd Mercher, 19 Chwefror) yw 1,749 o achosion newydd a 136 o farwolaethau.

Mae’r nifer o achosion newydd wedi cwympo i lai na 2,000 dros y ddau ddiwrnod diwethaf, ond mae’r swyddogion a’r dadansoddwyr wedi rhybuddio fod perygl o fwy o heintio difrifol wrth i weithwyr fynd yn ôl i’w gwaith ar ôl gwyliau estynedig Blwyddyn Newydd y Lleuad.

Mae’r awdurdodau yn ninas Wuhan, lle cychwynnodd yr haint, yn addo darganfod ac ynysu pob claf yn y ddinas cyn ddiwedd y dydd.

Heddiw yw diwrnod olaf yr ymgyrch drws i ddrws yn Wuhan i ddarganfod unrhyw un mae’r awdurdodau wedi eu methu hyd yn hyn.

“Does dim yn fwy pwysig na bywyd dynol,” meddai Wang Zhonglin, ysgrifennydd newydd Plaid Gomiwnyddol Wuhan. “Os oes un achos pellach yn cael ei ddarganfod ar ôl ddydd Mercher, arweinyddion y rhanbarth fydd yn gyfrifol.”

Teithwyr yn cael gadael y Diamond Princess

Yn y cyfamser, bydd llong bleser y Diamond Princess ar arfordir Japan yn cwblhau’r cyfnod o gwarantin heddiw, ac fe fydd y teithwyr yn cael gadael y llong ar ôl pythefnos o gael eu hynysu yno.

Mae beirniadu llym wedi bod o’r broses gwarantin ar fwrdd y llong. Cafwyd 542 o achosion o’r firws yno, y nifer fwyaf y tu allan i Tsieina, ac mae’r arbenigwyr meddygol wedi galw’r cwarantin yn fethiant.

Er fod swyddogion Japan yn mynnu fod y nifer o achosion yn cysoni, mae dwsinau o achosion yn parhau i godi bob dydd.

Dydd Mawrth, cafwyd 88 o bobl yn bositif, a ddydd Llun roedd 99 wedi eu heintio.

Bydd yn rhaid i’r staff, fu yn cario ymlaen a’u gwaith dyddiol dros y bythefnos diwethaf, aros ar fwrdd y llong.