Mae 105 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronavirus yn Tsienia, ond mae’r ffigwr ychydig yn llai na’r un dyddiol blaenorol.

142 oedd y ffigwr a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Sul, Chwefror 16).

Mae’r lluoedd arfog yn parhau i gefnogi pobol sydd wedi cael eu taro’n wael, ac maen nhw wedi anfon 1,200 o weithwyr meddygol a chyflenwadau ychwanegol i ddinas Wuhan, lle mae’r rhan fwyaf o’r achosion.

Yn y ddinas honno, mae ysbytai dros dro wedi cael eu codi ac mae adeiladau eraill wedi’u troi’n ganolfannau meddygol a wardiau i drin achosion llai difrifol.

Ond mae pobol yn aros o hyd am driniaeth ynghanol pryderon y gallai’r firws ledu ymhellach.

Mae achosion yn dal i gael eu cofrestru mewn gwledydd cyfagos.