Mae mwy na 30 o bobol gyffredin wedi cael eu lladd mewn cyrchoedd awyr yn Yemen.

Fe ddigwyddodd mewn ardal fynyddig yng ngogledd y wlad, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu’r weithred fel un “syfrdanol”.

Mae gwrthryfelwyr Houthi yn cyhuddo’r clymblaid sydd wedi’i harwain gan Sawdi Arabia o gynnal cyrchoedd er mwyn dial am saethu awyren i lawr yn nhalaith Jawf.

Mae ymchwiliad ar y gweill i’r cyhuddiadau hynny.

Mae lle i gredu bod 31 o bobol wedi’u lladd a 12 yn rhagor wedi’u hanafu yn y digwyddiad diweddaraf, ond mae rhai adroddiadau’n dweud 32.

Mae lluniau wedi’u cyhoeddi o adeiladau a cherbydau’n cael eu dinistrio.

Mae Achub y Plant hefyd yn beirniadu’r cyrchoedd diweddaraf.