Dynes 80 oed o Tsieina oedd ar ei gwyliau yn Ffrainc yw’r person cyntaf i farw y tu allan i gyfandir Asia o ganlyniad i coronavirus.

Cafodd y ddynes o dalaith Hubei ei tharo’n wael a chael ei hynysu ar Ionawr 25, yn ôl Llywodraeth Ffrainc.

Roedd hi wedi bod yn y wlad ers Ionawr 16.

Er bod mwy na 1,500 o bobol wedi marw yn Tsieina erbyn hyn, dim ond tri oedd wedi marw y tu allan i’r wlad cyn hyn, a’r rheiny yn Hong Kong, y Ffilipinas a Japan.