Mae nifer y bobol sydd wedi marw o coronavirus yn Tsieina wedi cyrraedd 1,380.

Cafodd 121 o farwolaethau eu cofnodi ddydd Iau (Chwefror 13) yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd wrth i nifer yr achosion newydd godi o 5,090 i 63,581.

Mae nifer yr achosion wedi codi’n sylweddol gan fod y dalaith sydd wedi ei heffeithio waethaf wedi newid eu dull o gyfri achosion ers dydd Iau (Chwefror 13).

Yn Hubei, maent bellach yn cynnwys achosion ar sail diagnosis doctoriaid, cyn i brofion gadarnhau bod gan bobol y firws.

Mae yno 252 o achosion coronavirus yn Siapan bellach, gan gynnwys 218 ar long bleser ym mhorthladd Yokohama.

Ac mae dros 560 o achosion wedi cael eu cadarnhau y tu allan i Tsieina, gyda thair marwolaeth, un ymhob un o’r Philippinau, Hong Kong a Siapan.