Mae’r Uchel Lys yn dweud na all Llywodraeth Awstralia symud aelodau o lwythi brodorol allan o’r wlad fel rhan o gynllun i alltudio troseddwyr o dramor – hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw ddinasyddiaeth.

Fe ddaw wrth i’r llys ystyried achosion dau ddyn a gafodd eu geni y tu allan i’r wlad, ond sy’n ystyried eu hunain yn aelodau o lwyth brodorol.

Fe fu’r llywodraeth yn ceisio eu halltudio ar ôl iddyn nhw dreulio cyfnod yn y carchar am droseddau treisgar.

Mae Brendan Thomas, 31, yn aelod o’r llwyth Gunggari yn ne Queensland, ond mae ansicrwydd a yw Daniel Love, 40, yn aelod o lwyth Kamilaroi yng ngogledd New South Wales ac fe allai ail achos gael ei gynnal.

Yn ôl y llys, mae gan lwythi brodorol, sy’n 3% o’r boblogaeth, gysylltiad arbennig ag Awstralia o ran diwylliant, hanes a chrefydd.