Mae lluoedd Ffrainc a Mali wedi lladd mwy na 30 o eithafwyr Islamaidd yn rhanbarth Sahel ar y ffin rhwng Mali, Niger a Burkina Faso.

Cafodd ail gyrch ei gynnal ddoe (dydd Gwener, Chwefror 7) gan ladd 20 o bobol, ddyddiau’n unig ar ôl y cyrch cyntaf lle cafodd tua deg o bobol eu lladd.

Mae lle i gredu na chafodd unrhyw filwyr o Ffrainc na Mali eu lladd yn ystod y cyrchoedd.

Cyhoeddodd Ffrainc ddechrau’r wythnos eu bod nhw am anfon 600 yn rhagor o filwyr i’r rhanbarth, gan gynyddu’r nifer i 5,100.

Fe fu eithafwyr yn gweithredu ar y ffin rhwng y tair gwlad ers 2014.