Mae glaw trwm mewn rhannau o ddwyrain Awstralia wedi helpu i ddiffodd dwsinau o danau gwyllt mewn rhannau o New South Wales.

Dywedodd comisiynydd y gwasanaeth tan yn y dalaith, Shane Fitzsimmons, ei fod yn ffyddiog y bydd y glaw yn diffodd rhai o’r tanau yn y dyddiau nesaf.

Mae 42 o danau gwyllt yn dal i losgi yno, gydag 17 o rheiny ddim o dan reolaeth. Mae tanau gwyllt wedi achosi difrod sylweddol yn y wlad dros y misoedd diwethaf.

Mae’r glaw trwm wedi achosi llifogydd yn Sydney a bu glaw trwm yn Queensland hefyd.