Bydd llywodraethau Sbaen a Catalwnia yn cynnal trafodaethau ffurfiol fis yma, yn ôl Prif Weinidog Sbaen.

Gwnaeth Pedro Sanchez y cyhoeddiad yn fuan ar ôl cynnal cyfarfod gydag arweinydd Catalwnia Quim Torra.

Er na fu unrhyw ddatblygiadau sylweddol o’r cyfarfod heddiw (dydd Iau, Chwefror 6) cytunodd y ddwy garfan i gynnal trafodaethau ffurfiol cyn diwedd y mis.

“Yr hun dwi’n ei gynnig yw ein bod ni’n dechrau o’r dechrau,” meddai Pedro Sanchez wrth newyddiadurwyr.

“Dwi wedi dod yma i siarad ac rwyf yn gwerthfawrogi parodrwydd yr Arlywydd Torra i drafod. Roedd yn drafodaeth barchus rhwng dau Arlywydd.”

Yn y cyfarfod, rhoddodd Quim Torra ddau lyfr ar hawliau dynol i Pedro Sanchez.

Ddiwrnod cyn y cyfarfod, fe fu trais rhwng protestwyr a’r heddlu wrth i Pedro Sanchez gynnal cyfarfod gyda’i gabinet yn Barcelona.