Mae tri wedi marw, a dwsinau yn rhagor wedi’u hanafu, wedi i awyren wyro oddi ar lain glanio yn Nhwrci.

Roedd yr awyren wedi teithio o ddinas Izmir, yng ngorllewin y wlad, ac roedd 183 o bobol ar ei bwrdd pan aeth i drybini yn glanio ym maes awyr Sabiha Gokcen, Istanbul.

Bu’n rhaid i’r teithwyr ddianc ohoni trwy dwll yn ei hochr.

Ceisiodd yr awyren lanio dan amodau tywydd gwael, ac mae’n debyg y bu iddi sgidio am 50 i 60 medr cyn diweddu fyny mewn ffos.

Cafodd y maes awyr ei chau yn sgil y digwyddiad, a bu’n rhaid atal rhagor o awyrennau rhag glanio yno.