Mae canlyniadau clymblaid cyntaf Iowa wedi eu dal yn ôl oherwydd “gwiriadau safoni” a rheolau gohebu, ac nid am fod rhywun wedi “hacio neu ymyrryd”, meddai’r Democratiaid.

Daw’r datganiad wedi i bleidleiswyr Iowa lenwi gorsafoedd ar draws y dalaith, gydag o leiaf pedwar ymgeisydd yn brwydro i ennill ymgyrch gyntaf 2020, ac yn ei dro, ennill yr hawl i sefyll yn erbyn yr Arlywydd Donald Trump.

“Mae’n edrych fel petai am fod yn noson hir, ond rydyn ni’n teimlo’n dda,” meddai’r cyn-Ddirprwy Arlywydd Joe Biden, gan awgrymu y bydd y canlyniadau olaf “yn agos”.

“Mae gen i deimlad y byddwn ni’n gwneud yn arbennig o dda yma yn Iowa,” meddai Bernie Sanders, Seneddwr Vermont.

“Dyma ddechrau’r diwedd i Donald Trump.”

Problemau technoleg

Ond mae’n debyg fod problemau â’r dechnoleg wedi achosi oedi yn y canlyniadau, a’r awgrym yw fod y nifer a bleidleisiodd yn agos i’r nifer yn 2016.

Roedd swyddogion y blaid yn bryderus am yr oedi ac wedi galw am drafodaeth gyda’r ymgyrchwyr.

“Gwelwyd anghysondebau wrth adrodd tair set o ganlyniadau,” meddai llefarydd.

“Yn ychwanegol i’r system dechnoleg i gofnodi canlyniadau, roedden ni’n defnyddio lluniau o ganlyniadau, a llif papurau i ddilysu’r canlyniadau,” meddai.

“Mater gohebu yn unig yw hyn, does dim problem gyda’r ap a does neb wedi ei hacio nac wedi ymyrryd.”

Aeth rheolwr ymgyrchu Donald Trump ati i drydar “Gwiriadau safoni = wedi rigio” gyda emoji yn rhychu ei dalcen.

Mae’r arlywydd eisoes yn ceisio creu rhwygiadau ymhlith y Democratiaid a chynhyrfu cefnogwyr Bernie Sanders, gan ei fod yn credu fod y Pwyllgor Democrataidd Cenedlaethol wedi bod yn gweithio yn ei erbyn yn 2016.