Mae un person wedi cael ei saethu’n farw a phump wedi’u hanafu ar fws yng Nghaliffornia.

Roedd Anthony Devonte Williams, 33 oed o Maryland, yn rhegi ac yn sibrwd cyn yr ymosodiad ar y cerbyd llawn dop.

Llwyddodd teithwyr i dynnu’r dryll oddi arno, yn ôl yr awdurdodau, ond bu farw dynes 51 oed o Colombia.

Fe fu’n rhaid i’r gyrrwr dynnu i mewn i lain galed y ffordd rhwng Los Angeles a San Francisco, wrth i deithwyr dywys yr ymosodwr oddi ar y cerbyd a’i roi yn nwylo’r awdurdodau.

Derbyniodd nifer o deithwyr driniaeth ar eu ffordd i’r arhosfan nesaf.

Mae’r ymosodwr wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pam aeth e ati i saethu pobol.

Roedd 43 o bobol ar y bws, gan gynnwys nifer o blant chwech ac wyth oed.

Mae dyn 45 oed a dynes 19 oed mewn cyflwr difrifol, a dynes 39 oed wedi’i hanafu’n sylweddol.