Mae’r cleifion cyntaf wedi cyrraedd ysbyty newydd yn Tsieina gyda 1,000 o wlâu a gafodd ei adeiladu o fewn 10 diwrnod fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael a’r firws newydd coronavirus.

Cafodd Ysbyty Huoshenshan ei adeiladu gan griwiau sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos yn Wuhan, tarddiad y firws a ddaeth i’r amlwg ym mis Rhagfyr. Mae disgwyl i ail ysbyty gyda 1,500 o wlâu agor yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae’r rhan fwyaf o’r 11 miliwn o bobl sy’n byw yn y brifddinas wedi cael eu gwahardd rhag gadael yr ardal.

Yn ôl asiantaeth newydd Xinhua, mae 1,400 o feddygon, nyrsys a staff ychwanegol wedi cael eu hanfon i’r ysbyty yn Wuhan.

Hyd yn hyn mae mwy na 17,000 wedi cael eu heintio a’r firws a 361 o bobl wedi marw.