Mae tanau gwyllt wedi mynd allan o reolaeth gerllaw Canberra, prifddinas Awstralia, ac mae trigolion yn cael eu rhybuddio i fod yn barod i adael.

Mae stad o argyfwng wedi cael ei ddatgan yn Rhanbarth y Brifddinas wrth i dân ymestyn dros 88,500 o erwau o goedwig a thir amaethyddol i’r de o Canberra.

Mae o leiaf 33 o bobl wedi cael eu lladd mewn tanau ledled deheudir Awstralia ers mis Medi, a dros 3,000 o gartrefi a mwy na 26.2 miliwn o erwau o dir wedi cael eu dinistrio.