Mae goroeswyr Auschwitz wedi rhybuddio bod gwrth-semitiaeth ar i fyny 75 mlynedd ar ôl i’r gwersyll gael ei rhyddhau.

Bu nifer o oroeswyr yn treulio amser yn gweddïo a galaru wrth ddychwelyd i’r gwersyll lle gollodd nifer ohonynt eu teuluoedd.

Roedd oddeutu 200 ohonynt yno, wedi trafeilio o Israel, Awstralia, Peru, Rwsia, a’r Unol Daliaethau.

“Yma, mae’r goroeswyr olaf i weld y Holocaust gyda’i llygaid eu hunain,” meddai Arlywydd Glad Pwyl Andrezej Duda.

“Allwn ni byth anghofio graddfa’r troseddau gafodd eu gweithredu yma.”

Adroddodd Ronald Lauder, pennaeth Cyngres Iddewig y byd stori am oroeswr a gafodd ei wahanu o’i deulu.

Gwyliodd y dyn ei ferch ifanc, mewn cot goch, yn cerdded i’w marwolaeth ac yn troi mewn i ddot coch yn y pellter, cyn diflannu am byth.

“Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd eto,” meddai Ronald Lauder.