Mae 37 o bobol wedi marw erbyn hyn o ganlyniad i law trwm Brasil.

Mae miloedd yn rhagor wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi yn nhalaith Minas Gerais yn ne-ddwyrain y wlad.

Mae 25 o bobol yn dal ar goll.

Fe gwympodd 171mm o law o fewn 24 awr yn Belo Horizonte, prifddinas y dalaith, ddydd Iau a dydd Gwener (Ionawr 23 a 24) – y cyfanswm mwyaf o law ers 110 o flynyddoedd.

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi argyfwng mewn 47 o ddinasoedd.

A bydd tridiau o alaru ar gyfer y rhai fu farw.