Mae chwech o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn achos o saethu yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau.

Fe ddigwyddodd mewn bwyty yn Salisbury.

Cafodd un person anafiadau difrifol, ond mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd tri o bobol eraill driniaeth er nad oedden nhw wedi cael eu saethu.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.