Mae nifer y bobol sydd wedi marw yn dilyn daeargryn yn nwyrain Twrci wedi codi i 21.

Mae mwy na 1,000 o bobol wedi’u hanafu, ac mae’r awdurdodau’n parhau i chwilio am oroeswyr o dan y rwbel yn nhaleithiau Elazig a Malatya.

Mae’r llywodraeth yn rhybuddio y gallai nifer y meirw godi eto wrth i dimau achub ei chael yn anodd parhau â’u gwaith oherwydd yr oerfel.

Mae mosgiau, ysgolion, neuaddau chwaraeon a llety myfyrwyr wedi’u hagor ar gyfer cannoedd o bobol sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.

Mae’r daeargryn yn amrywio o 6.5 i 6.8 ar raddfa Richter, ac roedd 228 o ôl-gryniadau rhwng 5.1 a 5.4 ar raddfa Richter.