Mae chwech o bobl wedi cael eu saethu’n farw a nifer fawr wedi’u hanafu yn nhref Rot am See, yn Ne Orllewin yr Almaen.

Mae unigolyn wedi cael ei arestio yn dilyn y saethu, ddigwyddodd am 12:45 yr hwyr ddydd Gwener (Ionawr 24).

Tydi’r heddlu ddim yn meddwl fod yna neb arall yn gyfrifol.

“Yn ôl y wybodaeth sydd genna i, mae yna chwech wedi marw, a nifer wedi eu hanafu,” meddai Rudolf Biehlmaier ar ran yr heddlu lleol.

“Rydym yn credu mai un person oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.”

Ychwanegodd Rudolf Biehlmaier fod yr heddlu o’r farn mai dinesydd Almaenig oedd yr ymosodwr.

Ac mae’n debyg fod rhai o’r dioddefwyr yn perthyn i’r un teulu.