Mae nifer y bobl sydd wedi marw o ganlyniad i’r math newydd o firws, coronavirus, yn Tsieina wedi codi i 25 gydag 830 o achosion wedi’u cadarnhau, meddai Comisiwn Iechyd Cenedlaethol y wlad.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r person cyntaf farw y tu allan i dalaith Hubei lle credir yw tarddiad y firws. Bu farw’r dyn 80 oed ar ôl iddo fod yn aros yn Wuhan gyda pherthnasau am ddeufis.

Wuhan yw prifddinas Hubei a dyna le cafodd y firws ei ddarganfod y tro cyntaf fis diwethaf. Mae’r firws yn effeithio’r sustem anadlu.

Mae’r awdurdodau yn Tsieina wedi cyflwyno cyfyngiadau symud mewn o leiaf tair dinas sydd â phoblogaeth o fwy na 25 miliwn o bobol, mewn ymdrech i atal y firws rhag lledu. Mae’r firws bellach wedi lledu i rannau eraill o’r byd yn ystod cyfnod prysur o deithio i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Cafodd un prawf ei wneud yng Nghymru wythnos ddiwethaf ond roedd y prawf yn negatif, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wuhan

Mae’r orsaf drenau a maes awyr yn Wuhan wedi cael eu cau, gyda’r fferi, trenau tanddaearol a gwasanaethau bws hefyd wedi cau. Mae’r awdurdodau wedi gorchymyn bod trigolion yn gwisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r heddlu’n gwirio cerbydau sy’n dod i mewn i’r ddinas ond nid ydyn nhw wedi cau’r ffyrdd. Fe fydd mesurau tebyg yn cael eu cyflwyno yn ninasoedd cyfagos Huanggang a Ezhou. Mae theatrau, caffis a chanolfannau eraill hefyd wedi cael gorchymyn i gau.

Yn y brifddinas Beijing mae digwyddiadau mawr wedi cael eu gohirio am gyfnod amhenodol.

Fe gyhoeddwyd ddydd Gwener (Ionawr 24) y bydd ysbyty newydd gyda 1,000 o wlâu yn cael ei adeiladu ar frys, yn bennaf i drin cleifion sydd a’r firws. Mae disgwyl i’r ysbyty gael ei adeiladu o fewn pythefnos.

Yn y cyfamser mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi penderfynu peidio datgan stad o argyfwng byd eang am y tro.