Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi bod yn amlinellu’r rheolau ar gyfer y gwrandawiad i uchelgyhuddo’r Arlywydd Donald Trump ar y diwrnod cyntaf.

Mae’r Gweriniaethwyr wedi cefnu ar eu cynllun i geisio gwasgu’r dadleuon agoriadol i mewn i ddau ddiwrnod, ond maen nhw hefyd wedi gwrthod cais y Democratiaid i alw mwy o dystion wrth glywed y cyhuddiadau yn erbyn yr arlywydd.

Fe wnaeth y diwrnod cyntaf bara 13 awr ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 21), gan ddod i ben am 2 o’r gloch y bore wrth i’r Gweriniaethwyr roi eu sêl bendith i reolau’r gwrandawiad.

Mae’r Tŷ Gwyn eisoes dan y lach am ddwyn yr achos yn erbyn yr arlywydd, gyda rhai yn dweud ei fod yn “ffars ddylai ddod i ben”.

Fe fu cryn ddadlau wrth i’r rheolau gael eu pennu, a bu’n rhaid i’r barnwr geryddu’r naill ochr a’r llall wrth iddyn nhw fynd ben-ben.

Mae’r Gweriniaethwyr eisoes wedi gwrthod cais y Democratiaid i weld tystiolaeth ar ffurf dogfennau’r Tŷ Gwyn, yr Adran Wladol, yr Adran Amddiffyn a’r swyddfa gyllideb.

Fe wnaethon nhw hefyd wrthod, o 53 i 47, y cyfle i glywed gan dystion gan gynnwys pennaeth staff y Tŷ Gwyn a’r cyn-bennaeth diogelwch cenedlaethol.

Bydd y dadleuon agoriadol bellach yn para tri diwrnod.

Mae Donald Trump yn wynebu cyhuddiad ei fod e wedi dal cymorth dyngarol yn ôl ar ôl galw ar yr Wcráin i wneud ffafr â fe drwy ymchwilio i ymddygiad ei wrthwynebydd Joe Biden. 

Mae cyfreithwyr yr arlywydd yn dadlau nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, er eu bod nhw’n cyfaddef iddo wneud yr hyn mae wedi’i gyhuddo o’i wneud, ac na ddylai fod wedi bod yn destun gwrandawiad.

Mae pedwar seneddwr sy’n mynd am yr arlywyddiaeth ar y rheithgor.