Mae disgwyl i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) gyhoeddi argyfwng yn Tsieina yn sgil firws sydd wedi lladd naw o bobol ac wedi heintio cannoedd yn rhagor.

Er mai yn nwyrain Tsieina mae tarddiad y firws, mae pobol hefyd wedi cael eu heintio yn yr Unol Daleithiau, Japan a De Corea hefyd.

Dyma’r pumed tro yn unig y bydd Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi argyfwng – fe ddigwyddodd am y tro cyntaf yn 2009 yn sgil ffliw’r moch ac mae hefyd wedi’i gyhoeddi yn y gorffennol yn sgil polio, ebola a zika.