Mae llywodraeth newydd Sbaen wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd gwladol.

Dyma’r cam cyntaf tuag at geisio cyflawni cyfres o fesurau uchelgeisiol i ymladd yn erbyn cynhesu byd eang.

Bydd y llywodraeth sosialaidd yn anfon eu deddfwriaeth i’r senedd ymhen 100 diwrnod i gael ei graffu.

Mae’r llywodraeth am i 95% o drydan y wlad ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2040.

Maent hefyd yn awyddus i gael gwared â llygredd gan fysys a lorïau, yn ogystal â gwneud ffermio’n carbon niwtral.