Mae’r ymgyrchydd hinsawdd Greta Thunberg wedi dweud mai “dim ond y cam cyntaf” yw  codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd, ac fod yno lot mwy i’w gyflawni.

Wrth siarad fel rhan o banel o ymgyrchwyr ifanc yn y World Economic Forum yn Davos, dywed Greta Thunberg: “Nid fi yn unig oedd yn gyfrifol, ond yr holl bobl ifanc yma’n dod at eu gilydd, i ffurfio’r cynghreiriau yma.

“Mae pobl yn fwy ymwybodol nawr, mae’r hinsawdd a’r amgylchedd yn bwnc llosg bellach.”

Aeth ymlaen i ddweud bod angen gwneud mwy na dim ond codi ymwybyddiaeth.

“Dyw hyn ddim ond y cam cyntaf,” meddai Greta Thunberg.

“Os na chaiff hyn ei drin fel argyfwng go iawn, allwn ni ddim ei ddatrys.”