Mae cyfreithwyr ar ran yr Arlywydd Donald Trump yn galw am wrthod yr achos yn ei erbyn, gan fynnu nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau’n cael ei uchelgyhuddo am ymyrryd yng ngwleidyddiaeth yr Wcráin drwy ddal cymhorthdal yn ôl oni bai eu bod nhw’n ymchwilio i’r Democrat Joe Biden, ac am wrthod cydymffurfio ag ymchwiliad i’r honiadau.

Mae ei gyfreithwyr yn mynnu bod y cyhuddiadau’n wan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer diwrnod cynta’r gwrandawiad, gan alw am gwtogi’r cyfnod ar gyfer datganiadau cychwynnol.

Ond mae hynny wedi cael ei wrthod, a’r disgwyl yw y gallai rhai diwrnodau bara 12 awr a bod nifer o wrthwynebwyr Donald Trump yn y ras arlywyddol nesaf am fod yn aelodau’r rheithgor.

Fydd y penderfyniad ynghylch pwy fydd yn dystion yn ystod yr achos ddim yn cael ei benderfynu tan yn hwyrach yn y gwrandawiad, yn groes i ddymuniadau’r Democratiaid.

Dyma’r trydydd tro yn unig i arlywydd gael ei uchelgyhuddo yn yr Unol Daleithiau, ond mae disgwyl i Donald Trump ennill yr achos gan mai’r Gweriniaethwyr yw’r mwyafrif yn y Senedd, a fydd yn cael y gair olaf.

Ar ôl deuddydd yr un i gyflwyno dadleuon cychwynnol – dau ddiwrnod yr un ar gyfer y naill ochr a’r llall – fe fydd seneddwyr yn cael hyd at 16 awr i holi tystion ar ran y ddwy ochr, a bydd pedair awr o drafod yn dilyn.

Ar ôl i’r broses honno ddod i ben, fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal i benderfynu ar dystion.

Bydd pleidlais wedyn ar bob un o’r cyhuddiadau yn erbyn Donald Trump.