Mae Arlywydd Yemen wedi beirniadu ymosodiad ar safle milwrol ar ôl i o leiaf 60 o filwyr gael eu lladd.
Fe wnaeth taflegrau daro mosg ar y safle yn nhalaith Marib neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 18), gan anafu 100 yn rhagor o bobol.
Mae’r ardal yn nwylo’r glymblaid Sawdi sy’n cael ei chefnogi gan yr Unol Daleithiau.
Mae Abed Rabbo Mansour Hadi yn dweud bod y weithred yn un “ymosodol amlwg” gan luoedd Houthi sy’n arwydd o “anhrefn” ac “amharodrwydd” i geisio heddwch.
Dydy’r lluoedd Houthi ddim wedi ymateb hyd yn hyn.