Mae disgwyl i Boris Johnson grybwyll y ffordd mae diplomyddion yn gyrru, wrth i arweinwyr gwleidyddol y byd ddod ynghyd ar gyfer uwchgynhadledd yn Berlin.

Fe fydd prif weinidog Prydain yn codi’r mater yn dilyn marwolaeth Harry Dunn yn Swydd Northampton, wrth i Anne Sacoolas, gwraig diplomydd, gael dychwelyd i’r Unol Daleithiau am gyfnod gan ddefnyddio hawl diplomyddol.

Mae disgwyl i Boris Johnson gynnal cyfarfod â Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwlad yr Unol Daleithiau.

Harry Dunn

Cafodd Harry Dunn ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ger safle’r awyrlu yn Croughton ar Awst 27 y llynedd.

Mae lle i gredu bod Anne Sacoolas yn gyrru ar ochr anghywir y ffordd pan wnaeth hi ei daro.

Cafodd ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ond wnaeth hi hawlio imiwnedd diplomyddol a mynd adref i’r Unol Daleithiau.

Mae’r Unol Daleithiau’n gwrthod ei hestraddodi.

Ers y digwyddiad hwnnw, mae deunydd fideo wedi dod i’r amlwg yn dangos diplomydd arall yn gyrru’n wyllt yng nghefn gwlad yn yr un ardal.

Fe darodd y car un o gerbydau’r heddlu.