Mae miloedd o bobol yn protestio eto fyth yn Hong Kong, wrth i’r heddlu orfod defnyddio nwy ddagrau i’w tawelu.

Maen nhw’n galw o hyd am ddiwygio etholiadol ac am foicotio’r Blaid Gomiwnyddol yn Tsieina.

Yn eu dillad du a mygydau dros eu hwynebau, fe heidiodd miloedd o bobol i mewn i erddi nid nepell o adeiladau Cyngor Deddfwriaethol y ddinas.

Roedden nhw’n galw am “ryddhau” Hong Kong, gan chwifio baneri Prydain a’r Unol Daleithiau.

Asgwrn y gynnen yn wreiddiol oedd deddfwriaeth estraddodi ddadleuol, sydd wedi arwain at fisoedd o wrthdaro treisgar.

Fe fyddai’r ddeddfwriaeth wedi galluogi’r awdurdodau i anfon troseddwyr honedig i Tsieina i sefyll eu prawf, ond fe fu’n rhaid tynnu’r ddeddfwriaeth yn ei hôl yn sgil yr ymateb iddi.

Serch hynny, mae’r anfodlonrwydd â’r llywodraeth yn parhau ac mae’n cael effaith sylweddol ar yr economi wrth i siopau orfod cau yn ystod protestiadau, ac mae twristiaid yn cadw draw o’r ddinas am resymau diogelwch.