Mae gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai’r tanau diweddaraf newid tirlun Awstralia am byth.

Mae 40,000 milltir sgwâr o dir wedi’u dinistrio yn ystod y tymor presennol.

Mae cynlluniau ar y gweill i geisio adfer yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf, ac mae gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai gymryd degawdau os nad canrifoedd i adfer y tir heb gymorth yr awdurdodau.

Mae eraill yn dweud na fydd y gwaith hwn hyd yn oed yn adfer y tir i’w gyflwr cyn y tanau.

Mae 28 o bobol wedi marw ers i’r tymor tanau ddechrau, gyda mwy na 2,600 o gartrefi wedi’u dinistrio.

“Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydyn ni’n gweld ei effeithiau,” meddai Sebastian Pfautsch, ymchwilydd ym Mhrifysgol Gorllewin Sydney.

“Mae’r prosesu adfer arferol yn mynd i fod yn llai effeithiol ac yn mynd i gymryd mwy o amser,” meddai Roger Kitching, ecolegydd ym Mhrifysgol Griffith yn Queensland.

“Yn hytrach nag ecosystem yn cymryd degawd, fe allai gymryd canrif neu fwy i’w adfer, gan gymryd nad ydyn ni’n cael tymor tanau ar yr un raddfa eto’n fuan.”

Mae rhybudd hefyd y gallai’r tanau ddinistrio cynefinoedd unigryw ac na fydd modd eu hadfer.