Mae aelodau o Senedd Ewrop wedi sefydlu ‘grŵp cyfeillgarwch’ i geisio cynnal cysylltiadau agos â’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.
“Roedd arnon ni eisiau gwneud hyn cyn i’n cydweithwyr o Brydain adael,” meddai Terry Reintke, yr Aelod Seneddol y Blaid Werdd o’r Almaen sydd wedi sefydlu’r grŵp.
“Mae llawer o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn poeni beth fydd yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a’n bwriad yw bod yn llais iddyn nhw a chodi eu pryderon yn Senedd Ewrop.
“Mae’n annifyr iawn gweld cydweithwyr yn gadael ac mae wedi bod yn anodd i’r staff hefyd. Rydym am sicrhau ein bod ni’n cynnal y berthynas yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae’r grŵp hefyd â’r nod o hyrwyddo “gwerthoedd democratiaeth a hawliau dynol”.