Mae awdurdodau ar yr ynysoedd Majorca ac Ibiza yn y Môr Canoldir wedi cyflwyno deddf i fynd i’r afael â’r broblem o oryfed ymhlith twristiaid.

Mae’r ddeddf yn gwahardd trefnu digwyddiadau crwydro o dafarn i dafarn, hyrwyddo goryfed trwy “fariau agored” ac “oriau hapus”, ac yn gorfodi siopau sy’n gwerthu alcohol i gau rhwng 8.30 y nos a 7.00 y bore.

Fe fydd yn anghyfreithlon hefyd neidio oddi ar balconi gwesty i bwll nofio – arferiad sydd wedi achosi llawer o anafiadau a rhai marwolaethau dros y blynyddoedd. Fe fydd y rhai a fydd yn cael eu dal yn gorfod gadael eu gwesty.

Fe fydd y ddeddfwriaeth mewn grym mewn tair ardal – Palma a Magaluf yn Majorca, a’r West End yn Ibiza.

Dyma rai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Ewrop ac maen nhw’n arbennig o boblogaidd ymhlith pobl ifanc o Brydain, Iwerddon a’r Almaen.