Mae arweinwyr Iran wedi wynebu ail ddiwrnod o brotestio wedi iddyn nhw gyfaddef bod un o’u taflegrau wedi saethu awyren o’r Wcrain i’r ddaear, gan ladd 176 o bobl, nifer ohonyn nhw’n ddinasyddion o Iran.

Roedd protestwyr yn Tehran a sawl dinas arall yn gweiddi sloganau yn erbyn yr arweinyddiaeth.

Ac mae adroddiadau o wrthdaro rhwng protestwyr a’r heddlu arfog, gyda nwy dagrau yn cael ei ddefnyddio.

Cafodd yr awyren, oedd ar ei ffordd i brifddinas yr Wcráin, Kyiv, ei saethu i lawr ger Tehran ddydd Mercher diwethaf (Ionawr 8).

Bu farw pob un o’r teithwyr ar fwrdd yr awyren gan gynnwys pobl o Iran, Canada, yr Wcráin, gwledydd Prydain, Afghanistan a Sweden.

Mae Iran yn dal i honni eu bod wedi saethu’r awyren yn “anfwriadol.”