Mae dau adeilad preswyl tal wedi cael eu dymchwel yn India am eu bod nhw’n mynd yn groes i reolau amgylcheddol.

Fe ddigwyddod y ffrwydrad dan reolaeth yn nhalaith Kerala.

Fe ddaw ar ôl i lys orchymyn y llynedd y dylid dymchwel unrhyw adeilad sy’n torri rheolau’n ymwneud ag adeiladu o fewn pellter penodol i foroedd, afonydd a llynnoedd.

Mae’r adeiladau yn agos i lyn Vembanadu, sy’n ardal ecolegol sensitif.

Mae’r gwaith o’u dymchwel yn raddol wedi para deufis.

Bu’n rhaid symud oddeutu 2,000 o bobol er mwyn cwblhau’r gwaith, wrth i ddegau o bobol recordio’r ffrwydrad ar ffonau symudol.

Mae protestiadau wedi’u cynnal ar draws y wlad yn erbyn y gyfraith ddadleuol.