Mae dau dân wedi cyfuno i ffurfio tanchwa anferth yn ne-ddwyrain Awstralia mewn noson gythryblus arall yn argyfwng tanau’r wlad.
Mae diffoddwyr tân wedi bod wrthi’n ymladd fflamau sydd wedi cael eu ffyrnigo gan wyntoedd cryf, a thanau newydd sydd wedi eu hachosi gan fellt yn nhaleithiau De Cymru Newydd a Victoria.
Cafodd dyn ei ruthro i’r ysbyty yn Sydney mewn cyflwr difrifol ar ôl dioddef llosgiadau wrth geisio amddifyn cartref, ac mae amryw o ddiffoddwyr tân wedi dioddef mân losgiadau.
Mae gobaith y bydd y rhagolygon am dywydd mwynach yr wythnos nesaf yn lleddfu rhywfaint ar yr argyfwng.