Mae Iran wedi cyfaddef saethu awyren o’r Wcrain i lawr yn anfwriadol, gan ladd pawb o’r 176 o bobl ar ei bwrdd, ar ôl dyddiau o wadu cyfrifoldeb.

Mewn datganiad yn gynnar heddiw, mae teledu’r wlad yn beidio ‘camgymeriad dynol’ am y trychineb ddydd Mercher ar ôl ymosodiadau Iran ar dargedau Americanaidd.

Mae arlywydd Iran, Hassan Rouhani, wedi ymddiheuro am y ‘camgymeriad trychinebus’ ac yn cydymdeimlo â phawb o’r dioddefwyr.

Roedd yr awyren Boeing 737 Ukraine International Airlines wedi dod i lawr yn fuan ar ôl codi o faes awyr Tehran yn oriau cynnar dydd Mercher. Yn fuan wedyn, roedd swyddogion diogelwch o’r gorllewin wedi amau iddi gael ei saethu i lawr.

Yn ôl arbenigwyr, byddai wedi bod yn amhosibl cuddio arwyddion i’r awyren gael ei tharo gan daflegryn mewn unrhyw ymchwiliad i’r digwyddiad.